Hafan > Newyddion > NEGES NADOLIG GAN FAER LLANDUDNO

Mae’r Nadolig yn amser gwirioneddol arbennig o’r flwyddyn, gan ddod â theuluoedd a ffrindiau at ei gilydd i rannu cynhesrwydd cartref, y pleser o roi a derbyn, harddwch addurniadau Nadoligaidd, a’r traddodiad o ymgynnull i fwynhau cinio Nadolig.

Ar yr un pryd, rydym yn ymwybodol o’r rhai sy’n llai ffodus; y rhai sydd wedi colli anwyliaid, teuluoedd sydd wedi’u gwahanu gan ryfel ac erchyllterau eraill ledled y byd, a’r rhai all deimlo’n unig ar yr adeg hon. Cawn ein hatgoffa o bwysigrwydd tosturi, estyn allan i gefnogi, ac annog ein gilydd trwy garedigrwydd a dealltwriaeth.

Mae’r Faeres a minnau yn estyn ein dymuniadau gorau i chi i gyd am hapusrwydd a llewyrch, llawenydd a bendith, a Nadolig a Blwyddyn Newydd heddychlon.

Cyng. Antony Bertola a Cyng. Carol Marubbi, Maer a Maeres Llandudno

Mayor & mayoress

Newyddion