Hafan > Newyddion > Noddi Ffit Conwy Chwarae Allan 2026

Fel Cyngor Tref rydym yn falch o noddi Ffit Conwy Chwarae Allan 2026.

Mae Chwarae Allan yn gyfle i chwarae, cael hwyl, gwlychu, baeddu a chwarae yn y mwd wrth wneud ffrindiau.

Mae Chwarae Allan yn ei ôl! Sesiynau 1.5 awr chwareus a hwyliog sy’n cael eu cynnal gan weithwyr chwarae sydd wedi’u hyfforddi ydi Chwarae Allan. Mae’r sesiynau’n cynnig llawer o wahanol gyfleoedd chwarae, gan gynnwyd adeiladu den, celf a chrefft, chwaraeon, coginio ar y tân, defnyddio celfi a llawer, llawer mwy. Mae’r sesiynau i gyd yn ymwneud â phlant yn chwarae’n rhydd ac yn dewis beth maen nhw eisiau ei wneud, felly yno i gefnogi mae’r gweithwyr chwarae, yn hytrach nag arwain.

Mae’r sesiynau ar gyfer plant 5 i 15 oed ac yn rhai mynediad agored. Mae hynny’n golygu bod plant yn cael mynd a dod fel maen nhw’n dewis ac mae croeso i rieni a gofalwyr aros gyda’u plant os ydyn nhw’n dymuno.

Rydyn ni eisiau bod mor gynhwysol â phosib felly os oes gan eich plentyn chi ofynion arbennig, cofiwch roi gwybod i ni fel ein bod ni’n gallu ei gefnogi i ddod i’r sesiynau. Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth cysylltwch â datblyguhamdden@conwy.gov.uk

Dyma'r ddolen gofrestru ar gyfer y sesiwn i unrhyw un sy'n awyddus i gofrestru ymlaen llaw ac osgoi unrhyw waith papur yn eu sesiwn gyntaf!

  • Poster Ffit Conwy Chwarae Allan 2026
  • Manylion a lleoliadau Ffit Conwy Chwarae Allan 2026

Newyddion