Hafan > Newyddion > Rhannu eich meddyliau a’ch profiadau
Ydych chi’n berson hŷn (50+ oed) sy’n fodlon rhannu eich meddyliau a’ch profiadau ynghylch gwahaniaethu ar sail oedran?
Ymunwch â ni am drafodaeth gyfeillgar; bydd yna gyfle i chi rannu eich barn am yr heriau a’r materion sy’n wynebu pobl hŷn, archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran, a helpu Age Cymru i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru.
5ed o Dachwedd
10:30 AM – 3:00 PM
Canolfan Fusnes Conwy, Ffordd Cyffordd, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX