Hafan > Newyddion > Sul y Cofio
Llandudno
Daeth trigolion Llandudno ynghyd ar ddydd Sul, Tachwedd yr 8fed 2026, i anrhydeddu’r rhai a fu farw a chofio am bawb sydd wedi gwasanaethu ac wedi cynnig yr aberth eithaf mewn achosion o wrthdaro ym mhob cwr o’r byd. Cynhaliwyd gwasanaethau coffa yn Llandudno a Bae Penrhyn, gan ddwyn y gymuned ynghyd i fyfyrio a mynegi eu parch a’u diolchgarwch ar y cyd.
Dechreuodd digwyddiadau coffáu blynyddol Sul y Cofio Llandudno gyda gwasanaeth yn Eglwys y Drindod Sanctaidd am 9.45yb, o dan arweiniad y Parchedig Vince Morris a Chaplan y Lleng Brydeinig Frenhinol, y Parchedig Ganon Philip Barratt OC.
Yn dilyn y gwasanaeth, bu i orymdaith o dan arweiniad Band Tref Llandudno orymdeithio i’r Gofeb Ryfel ar y Promenâd. Yno bu Maer Llandudno, y Cyng. Mandy Hawkins; cynrychiolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol; Cynghorwyr Tref; urddasolion Dinesig; personél milwrol sy’n gwasanaethu o Awyrlu Brenhinol y Fali a Chatrawd Feddygol Aml-Rôl 203 (Cymreig); cyn-filwyr; a chynrychiolwyr o sefydliadau sifil a chymunedol yn cymryd rhan.
Ger y Gofeb Ryfel, bu i drigolion ac ymwelwyr ymuno gyda nhw ar gyfer coffadwriaeth deimladwy a myfyriol. Cynhaliwyd y dau funud o dawelwch traddodiadol am 11yb, yna fe osodwyd y torchau mewn teyrnged i’r rheiny a roddodd eu bywydau i’w gwlad ac er mwyn dangos gwerthfawrogiad i bawb sydd wedi gwasanaethu ac sy’n parhau i wasanaethu.
- Gostwng y baneri ger y Gofeb Ryfel Tony Mottram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
Gostwng y baneri ger y Gofeb Ryfel - Tony Mottram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
- Y Biwglwr a’r Baneri ger Cofeb Ryfel Llandudno - Tony Mottram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
Y Biwglwr a’r Baneri ger Cofeb Ryfel - Llandudno Tony Mottram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
- Maer Llandudno yn gosod torch ger y Gofeb Ryfel Tony Mottram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
Maer Llandudno yn gosod torch ger y Gofeb Ryfel - Tony Mottram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
- Miss Alys, yn gosod tusw o babïau ger y Gofeb Ryfel Tony Mottram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
Miss Alys, yn gosod tusw o babïau ger y Gofeb Ryfel - Tony Mottram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
- Band Tref Llandudno yn Arwain yr Orymdaith Tony Mottrram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
Band Tref Llandudno yn Arwain yr Orymdaith - Tony Mottrram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
- Gorymdaith Sul y Cofio Llandudno Tony Mottram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
Gorymdaith Sul y Cofio Llandudno - Tony Mottram Ffotograffydd Dinesig Cyngor Tref Llandudno
Ochr Penrhyn
Dechreuodd coffadwriaeth Sul y Cofio Ochr Penrhyn am 10.15yb yn Neuadd Bentref Ochr Penrhyn, gyda gwasanaeth dan arweiniad y Canon Martin Snellgrove, cyn parhau gyda gwasanaeth ger cofeb ryfel y pentref.
Roedd Dirprwy Faer Llandudno, y Cynghorydd Miss Angie O'Grady, yn bresennol ynghyd ag aelodau o Gyngor Tref Llandudno, aelodau o Fudiadau Cyn-Wasanaeth a Gwirfoddol lleol, aelodau o ward Penrhyn, trigolion Penrhyn a grwpiau cymunedol.
Bu i’r achlysur ddwyn y gymuned ynghyd mewn coffadwriaeth ar y cyd, gan dalu teyrnged i’r rheiny a wasanaethodd yn y Lluoedd Arfog a’r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf mewn gwrthdaro ddoe a heddiw.
Gosodwyd torchau ger y gofeb ryfel fel arwydd o barch, tra bu i’r rheiny oedd wedi ymgynnull fyfyrio ar bwysigrwydd cofio’r rhai a fu farw a chydnabod yr aberth a wnaed i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol.
- Dirprwy Faer Llandudno yn talu teyrnged wrth Gofeb Ryfel Ochr Penrhyn
Dirprwy Faer Llandudno yn talu teyrnged wrth Gofeb Ryfel Ochr Penrhyn
- Torchau wedi’u gosod ger Cofeb Ryfel Ochr Penrhyn
Torchau wedi’u gosod ger Cofeb Ryfel Ochr Penrhyn
Gwasanaeth machlud, Carreg Goffa Mountbatten Green, Bae Penrhyn
Gwahoddwyd y Maer a’r Cynghorwyr Tref i ymuno gyda thrigolion Bae Penrhyn ar Sul y Cofio, Tachwedd yr 8fed, er mwyn talu teyrnged i un ar ddeg o ddynion o’r gymuned a gollodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cynhaliwyd gwasanaeth coffa byr am 4yp ger Carreg Goffa Mountbatten Green ar Lôn Mynach, Bae Penrhyn.
Arweiniodd y Parchedig Jules Harris o Eglwys Dewi Sant, Bae Penrhyn, y gwasanaeth gan gynnig cyfle i breswylwyr a thrigolion y gymuned gymryd hoe fach, myfyrio a thalu teyrnged i’r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf.
Roedd y digwyddiad yn atgof ingol o’r un ar ddeg o ddynion lleol a gollodd eu bywydau yn ystod y gwrthdaro, a hefyd effaith barhaol eu haberth ar eu teuluoedd, ffrindiau a chymuned ehangach Bae Penrhyn.
- Carreg Goffa Mountbatten, Bae Penrhyn
Carreg Goffa Mountbatten, Bae Penrhyn
- 4 pobl yn sefyll wrth Carreg Goffa Mountbatten, Bae Penrhyn
Glanwydden
Gosodwyd torch hefyd yng Ngwasanaeth Coffa Glanwydden.
- Gosodwyd torch hefyd yng Ngwasanaeth Coffa Glanwydden.
Gosodwyd torch hefyd yng Ngwasanaeth Coffa Glanwydden.
Diwrnod y Cadoediad
Ar Ddiwrnod y Cadoediad, Tachwedd yr 11eg 2026, cynhaliwyd Seremoni Coffa ger Cofeb Ryfel Llandudno dan arweiniad y Parchedig Ganon Philip Barratt OC, a chynrychiolydd o’r Lleng Brydeinig Frenhinol, gan gynnal dau funud o ddistawrwydd am 11yb a gosod torchau. Bu i’r Cyng. Mandy Hawkins, Maer Llandudno, annerch y dorf yn ogystal.












