Hafan > Digwyddiadau > Archif > Gorymdaith Rhyddid Awyrlu Brenhinol y Fali 09.07.23

Gorymdaith Rhyddid Awyrlu Brenhinol y Fali

Dydd Sul, Gorffennaf y 9fed o 10.45yb

Ar ddydd Sul, Gorffennaf y 9fed 2023, fe fydd gorymdaith drwy Landudno er mwyn nodi rhoi Anrhydedd Rhyddid y Dref ar Awyrlu Brenhinol y Fali gan Gyngor Tref Llandudno.

Fe roddwyd yr Anrhydedd Rhyddid ym 1995 er mwyn cydnabod gwasanaeth Awyrlu Brenhinol Y Fali i’w Gwlad a dyma’r Orymdaith gyntaf a gynhelir ers blynyddoedd maith. Bydd yr Orymdaith yn cael ei harwain gan Fand Coleg Awyrlu Brenhinol Cranwell.

Bydd yr Orymdaith yn ymgynnull ger Neuadd Tref Llandudno am 10.45yb. Mae disgwyl y bydd yr Orymdaith yn cychwyn ar eu taith am oddeutu 11.20 yn dilyn archwiliad o’r Orymdaith gan Brif Swyddog Awyrlu Brenhinol Y Fali, Grŵp-gapten Matt Hoare MA RAF, Maer Llandudno, Cyng. Greg J T Robbins ac Arglwydd Raglaw Clwyd, Mr H G Fetherstonhaugh OBE DL.

Yn ogystal â’r Orymdaith, fe fydd cyfarchiad o’r awyr am 11.00yb gan ddwy awyren Hawk. Mae croeso i wylwyr wylio’r Orymdaith.

Fe ddywedodd y Maer, y Cyng. Greg J T Robbins, “Mae’n fraint ac yn bleser croesawu’r Awyrlu Brenhinol yn ôl i Landudno. Rydym wedi meithrin perthynas cadarn gydag Awyrlu Brenhinol y Fali ac mae’r Orymdaith Rhyddid hon yn fodd i bobl y dref ddangos eu gwerthfawrogiad tuag at waith yr Awyrlu Brenhinol, yn enwedig yn y cyfnod cythryblus hwn.”

I wybod mwy am y digwyddiad, cysylltwch gyda Chyngor Tref Llandudno: 01492 879130


Archif