Hafan > Digwyddiadau > Dydd Sul Dinesig 2024

Bu i Faer Llandudno, Cyng. Michael A Pearce gynnal ei ddathliad Dydd Sul Dinesig ar ddydd Sul, Gorffennaf y 28ain 2024.  I gychwyn y diwrnod fe gynhaliwyd Gorymdaith, wedi’i arwain gan Fand Tref Llandudno gan gynnwys y Maer, y Cynghorwyr, urddasolion Dinesig a mudiadau milwrol, dinesig a chymunedol, i osod torchau ar y gofeb ryfel. Yna fe aeth yr orymdaith rhagddi i Eglwys Fethodistaidd Sant Ioan ar gyfer y Gwasanaeth Dinesig, dan lywyddiaeth y Parchedig. Philip Berry. Yn dilyn y Gwasanaeth, fe wnaeth yr Orymdaith ail-ymgynnull a dychwelyd i Neuadd y Dref, lle bu i’r Maer sefyll i’r salíwt, cyn mynd ymlaen i Westy St George am ginio. Yn dilyn y gwasanaeth, bu i’r Orymdaith ymgynnull unwaith eto a dychwelyd i Neuadd y Dref, lle bu i’r Maer roi salíwt cyn parhau i Westy St George i fwynhau tamaid i ginio. Yn ogystal â Chynghorwyr ac urddasolion Dinesig, bu i gynrychiolwyr o nifer o fudiadau gwirfoddol a chymunedol yn Llandudno ymuno gyda nhw am ginio hefyd fel arwydd o ddiolch iddyn nhw am yr holl waith maen nhw’n ei gyflawni yn y gymuned drwy gydol y flwyddyn. Roedd y Maer yn arbennig o falch o groesawu Syr Alan Bates, a’i bartner Mrs S Serocombe, gan gyflwyno Gwobr Gymunedol i Syr Alan ar ran y Cyngor Tref, er mwyn cydnabod ei wasanaeth eithriadol tuag i gymuned Llandudno a hefyd yn genedlaethol wrth ymgyrchu’n ddiflino i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr sgandal Swyddfa’r Post. Croesawodd y Maer Mrs G Bailey, Helping Hand for Ukraine a Mr Andrew Roberts, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Cancr Tenovus, Gogledd Cymru hefyd fel ei siaradwyr gwadd.

  • Maer Llandudno yn gosod torch ar Gofeb Rhyfel Llandudno ar y dydd Sul Dinesig
  • Y Maer yn yr Orymdaith ar y dydd Sul Dinesig
  • Band tref Llandudno yn arwain yr Orymdaith
  • Cyflwyno Gwobr Gymunedol i Syr Alan Bates

Digwyddiadau