Hafan > Digwyddiadau > Dydd Sul Dinesig
Croesawodd Maer Llandudno, y Cyng. Mandy Hawkins arweinwyr cymunedol, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a mudiadau milwrol, sifil a chymunedol i’w dathliad Dydd Sul Dinesig ar ddydd Sul, Gorffennaf y 26ain 2026, gan gydnabod y bobl a’r mudiadau hynny sy’n cynnig cyfraniad mor werthfawr i’r dref.
Cychwynnodd y diwrnod gyda gorymdaith, o dan arweiniad Band Tref Llandudno, i’r Gofeb Ryfel, lle bu seremoni gosod torchau cyn i’r orymdaith barhau i Eglwys y Drindod Sanctaidd ar gyfer y Gwasanaeth Dinesig, dan arweiniad y Parchedig Vince Morris.
Yn dilyn y gwasanaeth, bu i’r gwesteion ymgynnull ar gyfer derbyniad dinesig, lle bu i’r Maer estyn diolch i fudiadau gwirfoddol a chymunedol Llandudno am eu hymroddiad, eu hymrwymiad, a’r effaith gadarnhaol maen nhw’n ei chael ar y gymuned. Mwynhaodd y gwesteion hefyd anerchiad gan siaradwr gwadd y digwyddiad, Mrs Judith Phillips.
Mae Dydd Sul Dinesig yn achlysur arbennig yng nghalendr dinesig y dref, gan gynnig cyfle i fyfyrio ar werthoedd gwasanaeth, cofio a chymuned, wrth glodfori’r unigolion a’r mudiadau hynny y mae eu gwaith caled yn helpu Llandudno i ffynnu.
Mynegodd y Maer ei gwerthfawrogiad i bawb a oedd yn bresennol ac i bawb a wnaeth helpu i wneud y diwrnod yn achlysur mor gofiadwy a llwyddiannus.
- Cludwyr baneri wrth y gofeb ryfel
Cludwyr baneri wrth y gofeb ryfel
- Maer Llandudno yn gosod torch yng Nghofeb Ryfel Llandudno
Maer Llandudno yn gosod torch yng Nghofeb Ryfel Llandudno
- Y Maer, y Dirprwy Faer a'r cyn-Faer yn Eglwys Holy Trinity, gyda'r cludwyr baneri yn y cefn.
Y Maer, y Dirprwy Faer a'r cyn-Faer yn Eglwys Holy Trinity, gyda'r cludwyr baneri yn y cefn.
- Band Tref Llandudno yn arwain yr Orymdaith Ddinesig
Band Tref Llandudno yn arwain yr Orymdaith Ddinesig





