Hafan > Digwyddiadau > Sul y Cofio

Ar ddydd Sul, Tachwedd y 10fed 2024, cynhaliwyd Gwasanaethau Sul y Cofio yn Llandudno ac Ochr Penrhyn.

Llandudno

Dechreuodd y diwrnod gyda Gwasanaeth yn Eglwys y Drindod, o dan arweiniad y Parchedig Vince Morris a Chaplan y Lleng Brydeinig Frenhinol, Parchedig Ganon Philip Barratt OC. Yn dilyn y Gwasanaeth bu Gorymdaith i’r Gofeb Ryfel ar y Promenâd, gyda Band Tref Llandudno, Maer Llandudno, Cyng. Michael Pearce, cynrychiolwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol, Cynghorwyr Tref, Clare Hughes, AS, Mrs J Finch-Saunders, AS, Cyng. Harry Saville, yn cynrychioli Cadeirydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, personél milwrol, cyn-filwyr a mudiadau sifil a chymunedol yn arwain. Ymunodd preswylwyr ac ymwelwyr â nhw ger y gofeb ryfel ar gyfer gwasanaeth myfyriol a theimladwy ac i osod torchau er cof am y rheiny bu farw wrth wasanaethu eu gwlad.

Ochr Penrhyn

Cynhaliwyd gwasanaeth coffáu a gosod torchau ger Cofeb Ryfel Ochr Penrhyn hefyd, o dan arweiniad y Gweinidog Lleyg, Mr Alan McKinnell. Daeth y Dirprwy Faer, Cyng. Antony Bertola, Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog ac Aelodau Mudiadau Gwirfoddol Lleol, aelodau ward Penrhyn, preswylwyr Penrhyn a grwpiau cymunedol i’r Gwasanaeth.

  • Torchau wedi’u gosod ger Cofeb Ryfel Ochr Penrhyn

Diwrnod y Cadoediad

Ar Ddiwrnod y Cadoediad, Tachwedd yr 11eg 2024, cynhaliwyd Seremoni Goffáu ger Cofeb Ryfel Llandudno, o dan arweiniad y Parchedig Ganon Philip Barratt OC, a chynrychiolydd o’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Cynhaliwyd dau funud o ddistawrwydd am 11yb a gosodwyd y torchau. Cafwyd anerchiad hefyd gan y Cyng. Michael Pearce, Maer Llandudno. Yn dilyn Gwasanaeth Diwrnod y Cadoediad, aeth y Maer a’r rheiny oedd yn bresennol i Eglwys y Drindod Sanctaidd ar gyfer gwasanaeth i ailgysegru’r Capel Coffáu 100 mlynedd ers ei adeiladu.


Digwyddiadau