Hafan > Newyddion > Archif > Neges Nadolig gan Faer Llandudno

Mae’r Nadolig yn un o adegau mwyaf arbennig y flwyddyn, pan rydym i gyd yn edrych ymlaen yn arw at dreulio amser gydag ein teulu a ffrindiau, gan fwynhau hwyl yr ŵyl a bwyta llond ein boliau.

Fodd bynnag, nid yw pawb mor ffodus, ac mae nifer o deuluoedd sy’n galaru yn dilyn colli eu hanwyliaid yn ddiweddar, teuluoedd wedi’u gwahanu gan ryfel a theuluoedd yn wynebu caledi. Mae rhai wedi colli eu cartref a’u diogelwch heb unrhyw fai arnyn nhw. Dewch inni gymryd eiliad i feddwl am y rheiny sy’n llai ffodus na ni, gan obeithio y byddan nhw’n teimlo’n fodlon ac yn ddiogel unwaith eto yn y dyfodol agos.

Gweddïwn hefyd y daw heddwch a ffyniant i bawb dros y byd eto yn 2025.

Hoffai’r Faeres a minnau ddymuno pob heddwch, llawenydd a bendith i bob un ohonoch yn ystod yr adeg fendigedig hon o’r flwyddyn, waeth beth yw eich credoau, a Blwyddyn Newydd llon ac iach ichi i gyd.

Cyng. Michael A Pearce a Mrs Lindsay Pearce Maer a Maeres Llandudno 2024 – 2025

Neges Nadolig gan Faer Llandudno (PDF)

Cyng. Michael A Pearce a Mrs Lindsay Pearce Maer a Maeres Llandudno 2024 – 2025

Archif