Hafan > Newyddion > Clodfori Sector Lletygarwch Rhagorol Llandudno
Ar Fedi’r 17eg 2026, roedd yn bleser gan Gyngor Tref Llandudno groesawu cynrychiolwyr o bump o fusnesau llety annibynnol y dref i ddathlu cyflawniad eithriadol yng ngwobrau Tripadvisor Travellers’ Choice Best of the Best 2026.
Cafodd pob un o’r pum busnes eu cydnabod ymhlith yr 1% uchaf o fusnesau llety ledled y byd — wrth gwrs mae hyn yn gyflawniad anhygoel ac yn adlewyrchiad bendigedig o ansawdd y lletygarwch a gynigir yn Llandudno. ๐๐
Dyma’r pum busnes a gafodd eu clodfori:
๐ Burleigh House – 3ydd Gwely a Brecwast yn y DU, 13eg yn y byd
๐ Min Y Don – 6ed Gwely a Brecwast yn y DU
๐ The Rosedene – 8fed Gwely a Brecwast yn y DU
๐ The Cliffbury – 10fed Gwely a Brecwast yn y DU
๐ Between The Bays – 15fed Gwely a Brecwast yn y DU
Yn ystod yr ymweliad, cafodd y Maer y fraint o gyflwyno Tystysgrif Faerol i bob busnes er mwyn cydnabod eu gwasanaeth eithriadol, safonau cyson uchel ac adolygiadau teithwyr rhagorol.
Mae’r cyflawniadau hyn yn anrhydedd aruthrol i bob busnes unigol ac maen nhw hefyd yn cynnig rhagoriaeth sylweddol i Landudno, gan amlygu cryfder ac ansawdd sector lletygarwch ein tref.
At hyn, hoffai’r Cyngor gydnabod ymroddiad a gwaith caled y bobl sy’n gyfrifol am y busnesau hyn, lle mae eu hymrwymiad i gynnig profiadau ardderchog i ymwelwyr wedi helpu gyda chyflawni’r llwyddiant ysgubol hwn. Hoffem hefyd gydnabod y nifer o westeion y mae eu hadolygiadau wedi helpu i arddangos lletygarwch Llandudno i ymwelwyr o bob cwr o’r byd.
๐ Hoffai Cyngor Tref Llandudno estyn llongyfarchiadau gwresog i bob un o’r pum busnes am y cyflawniad gwerth chweil hwn.
Rydym yn falch dros ben o ddathlu eich llwyddiant a’ch cyfraniad tuag at ein tref. ๐


