Hafan > Newyddion > Cyflwyno Tystysgrif Faerol

Ar ddydd Llun, Ebrill y 27ain 2026, roedd yn bleser gan Gyngor Tref Llandudno groesawu Mr Simon Roxburgh, Cadeirydd Clwb Triathlon GOG, ynghyd â sawl aelod o’r clwb, i Siambr y Cyngor.

Yn ystod yr ymweliad, cafodd y Maer y fraint o gyflwyno Tystysgrif Faerol i Mr Roxburgh er mwyn cydnabod ei wasanaeth eithriadol ers sefydlu’r clwb yn 2014.

O dan ei arweinyddiaeth, mae Clwb Triathlon GOG wedi ffynnu i fod yn un o gymunedau chwaraeon mwyaf bywiog a chynhwysol yr ardal – gan hyrwyddo triathlonau yn lleol a sicrhau bod y chwaraeon yn hygyrch i bobl o bob gallu.  

Cyflawniad arbennig a chydnabyddiaeth haeddiannol dros ben – llongyfarchiadau i Simon a phawb sydd ynghlwm â’r clwb.

  • Mr Simon Roxburgh gyda 2 aelod or cyngor
  • llun grwp gyda Simon

Newyddion