Hafan > Newyddion > Gorymdaith Nadolig Llandudno yn dod a Hwyl yr Ŵyl i’r Dref

Gorymdaith Nadolig Llandudno yn dod a Hwyl yr Ŵyl i’r Dref

Roedd yn bleser gan Gyngor Tref Llandudno groesawu’r Orymdaith y Nadolig arbennig unwaith eto ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr y 6ed 2025. Bu i’r digwyddiad poblogaidd blynyddol ledaenu hwyl yr ŵyl ar hyd y strydoedd wrth i dorfeydd heidio ledled Stryd Mostyn a Stryd Lloyd i fwynhau’r orymdaith a’r adloniant bywiog.   

Cafodd yr orymdaith ei harwain gan Gorfflu Drymiau Marchogion yr Wyddfa / The Knights of Snowdon Corps of Drums, ac yna Maer a Maeres Llandudno a Miss Alys, heb anghofio’r dyn ei hun, Siôn Corn ar ei sled. Ymysg yr atyniadau roedd cerbyd pantomeim ar thema Beauty and The Beast Theatr Colwyn, corrach mewn awyren ddwbl, tylwyth teg Nadolig gyda’i chylchyn hwla, ystudfachwyr, corachod yn jyglo, cerbyd stori’r geni, a llu o grwpiau ieuenctid lleol. 

Bu i’r gwylwyr fwynhau amrywiaeth o adloniant arbennig y tu allan i Neuadd y Dref gan gynnwys perfformiadau gan Fand Tref Llandudno, Theatr Gerdd Ieuenctid Llandudno, Dawnswyr Linzi Grace a chôr Ysgol Glanwydden. Cafodd y goleuadau Nadolig eu goleuo’n swyddogol gan John Evans, AJ a Curtis Pritchard a Han a Fran (wnaeth gyrraedd rownd derfynol BGT), a oedd yn ymddangos fel y Chwiorydd Hyll o Sinderela yn Venue Cymru.

Yn dilyn yr Orymdaith, parhaodd y dathliadau ar y llwyfan gyda Thylwyth Teg y Nadolig a’i chylchyn hwla, y corachod yn jyglo ac ymddangosiad gan y Grinch direidus. Fe wnaeth Han a Fran ddiddanu’r dorf gyda detholiad o ganeuon ABBA, cyn i Fand Samba Batala Bermo gloi’r diwrnod llawn hwyl.  

Dywedodd Maer Llandudno, y Cyng. Antony Bertola: 
“Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau Gorymdaith y Nadolig eleni, yn bwrw golwg ar yr atyniadau gwerth chweil a’r grwpiau gwych a oedd yn ein diddanu y tu allan i Neuadd y Dref. Hoffwn estyn diolch i bawb a oedd ynghlwm a chroesawu unrhyw un sy’n awyddus i gymryd rhan y flwyddyn nesaf i gysylltu â Neuadd y Dref er mwyn inni allu cynnig digwyddiad hyd yn oed gwell bob blwyddyn. Diolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad, o’r ardal leol a thu hwnt – roedd yn hyfryd gweld gwên ar wynebau’r plant wrth imi gerdded trwy’r dref. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at eich gweld chi’r flwyddyn nesaf.”  

Ychwanegodd Cadeirydd Gorymdaith y Nadolig, Cyng. Carol Marubbi:
“Diolch yn fawr iawn i bawb a weithiodd yn ddiflino i gynnal y digwyddiad hwn – y Cynghorwyr Tref a’r staff, Tîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a staff Adran yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau, Quantum Traffic Management Cyf, ein gwirfoddolwyr ac ein hatyniadau a pherfformwyr gwych yn yr Orymdaith a Neuadd y Dref. Hoffwn estyn diolch enfawr hefyd i’r holl berfformwyr yn yr Orymdaith a’r rheiny wnaeth ein diddanu y tu allan i Neuadd y Dref. Rydym yn ddiolchgar hefyd i’r cyhoedd am fentro allan yn y tywydd garw i gefnogi’r digwyddiad a hoffwn ddymuno Nadolig Llawen i bawb a dymuniadau gorau ar gyfer y Flwyddyn Newydd.” 

  • Siôn Corn yn ei sled
  • Corfflu Drymiau Marchogion yr Wyddfa
  • Angel ar Ystudfachau a Drymiwr Nadolig
  • Cerbyd Pantomeim Beauty & the Beast Theatr Colwyn
  • Tylwyth Teg Nadolig a’i Chylchyn Hwla
  • Y Grinch a Chorachod yn jyglo
  • Cast Pantomeim Sinderela Venue Cymru – John Evans, Han a Fran, AJ a Curtis Pritchard)

Newyddion