Hafan > Newyddion > Llandudno yn ei Blodau’n llwyddo i gipio’r Wobr Aur unwaith eto

Roedd yn falch dros ben gan Llandudno yn ei Blodau dderbyn gwobr Aur unwaith eto yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, yn y seremoni wobrwyo yn Wrecsam ar ddydd Gwener, Hydref y 3ydd 2025.   

Bu’n flwyddyn lwyddiannus arall i Llandudno yn ei Blodau. Yn ogystal â chipio’r wobr Aur yn y categori Arfordirol dros 12,000 fe wnaeth nifer fawr o grwpiau o Landudno gystadlu yn y gwobrau ‘It’s Your Neighbourhood’ (wedi’u rhestru isod).  Derbyniodd Ysgol Craig y Don Lefel 4 – categori Blodeuo yn yr Ysgol, derbyniodd Gerry a Carol Sweeny dystysgrif Hyrwyddwr Cymunedol a dyfarnwyd Gwobr Person Ifanc Jim Goodwin i Kidz Cyfeillion Stryd Mostyn.

Dywedodd y Cyng. Louise Emery, Cadeirydd, Llandudno yn ei Blodau “Roedd ennill y Wobr Aur yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau yn dangos yn union faint mae trigolion Llandudno yn ymfalchïo yn eu parciau lleol, traethau, eglwysi a mannau cymunedol. Mae’r grwpiau Cyfeillion wrthi’n brysur, ar y cyd â’r Cyngor Tref a thîm Mannau Agored a Pharciau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn sicrhau bod yr ardaloedd hyn yn lanach ac yn wyrddach. Rwy’n falch iawn o fod yn Gadeirydd Llandudno yn ei Blodau, yn enwedig yn ystod blwyddyn arall lle’r ydym wedi llwyddo i gipio’r wobr aur. Y gobaith ydy y byddem yr un mor llwyddiannus yn y gystadleuaeth Prydain yn ei Blodau gyda’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar Hydref yr 31ain.” 

Rhestr o enillwyr gwobrau ‘It’s Your Neighbourhood’ Llandudno

Lefel 2: Gwella

Grŵp Gwelyau Pabïau Cofeb Ryfel Llandudno
Neuadd Bentref Ochr Penrhyn

Lefel 3: Datblygu

Cyfeillion Stryd Mostyn

Lefel 4: Ffynnu

Tîm y Drindod Sanctaidd
Cyfeillion Gerddi Haulfre
Grŵp Llyfrgell Gymunedol Bae Penrhyn
Ymddiriedolaeth Gymunedol Glanwydden a’r Fro

Lefel 5: Rhagori

Cyfeillion Y Fach
Cyfeillion Parc y Frenhines
Cyfeillion Eglwys Sant Tudno
Cyfeillion Princes’ Green


Newyddion