Hafan > Newyddion > Miss Alice 2026-27
Ar ddydd Sadwrn Mehefin y 13eg, dathlodd Llandudno ei chystadleuaeth flynyddol boblogaidd Miss Alys, ac rydym yn falch o gyhoeddi bod Ysabella Roberts wedi’i dewis fel y Miss Alys newydd.
Mae croeso i ferched rhwng 8 a 10 oed sy’n byw o fewn pum ward Llandudno gystadlu, ac eleni fe ddewiswyd Ysabella i ymgymryd â’r rôl fawreddog.
Fe estynnodd y Miss Alys sy’n ymadael, Martha Connell, longyfarchiadau cynnes i Ysabella ar ei phenodiad. Yn ystod y seremoni, fe gyflwynwyd ei sash swyddogol Miss Alys a gwisg Miss Alys draddodiadol i Ysabella. Estynnwyd diolch o galon i Martha am gynrychioli Llandudno mor wych trwy gydol ei blwyddyn fel Miss Alys.
10 oed ydy Ysabella ac mae ganddi ystod eang o ddiddordebau, gan gynnwys nofio, dawnsio, canu, jiu-jitsu a thynnu lluniau. Mae hi’n llawn cyffro i gychwyn ei blwyddyn fel Miss Alys ac yn edrych ymlaen at gynrychioli Llandudno mewn digwyddiadau dinesig a dathliadau cymunedol.
Gan siarad am ei rôl newydd, gobaith Ysabella ydy ysbrydoli eraill a gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned, gan brofi gall bobl ifanc wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ddim ond 10 oed. Fel Miss Alys, bydd hi’n mynd gyda’r maer i ymrwymiadau dinesig ac, ar brydiau, yn teithio y tu hwnt i’r ardal i helpu hyrwyddo Llandudno a’i thraddodiad Miss Alys unigryw.
Os hoffech chi drefnu bod Miss Alys yn bresennol yn eich digwyddiad chi, cysylltwch gyda Clerc Cynorthwyol ar 01492 879130 neu e-bostiwch: assistant@llandudno.gov.uk

