Hafan > Newyddion > Ymweliad Gefeillio Trefi i Wormhout

Ymweliad Gefeillio Trefi i Wormhout, Ffrainc Gorffennaf y 3ydd – 7fed 2026

Ymweliad Gefeillio Trefi Llandudno i Wormhout

Wel am ychydig ddyddiau anhygoel ar gyfer ymweliad Gefeillio Trefi Llandudno i Wormhout, Ffrainc! 

O Orffennaf y 3ydd–7fed, bu i’r ddirprwyaeth fwynhau rhaglen llawn dop yn clodfori cyfeillgarwch, coffáu, diwylliant, cerddoriaeth a chymuned.

Dechreuodd yr ymweliad gyda chroeso cynnes yn Wormhout, ac yna dathliad arbennig yn llongyfarch y Parchedig Mike Harrison yn dilyn ei daith feicio elusennol o Landudno i Wormhout.

Roedd coffáu yn rhan bwysig o’r ymweliad, wrth i’r criw dalu teyrnged yn La Plaine au Bois, Mynwent Wormhout a Chofeb Ryfel Wormhout. Gosodwyd torchau hefyd yn Lôn Llandudno, gan anrhydeddu’r rheiny a gafodd eu heffeithio gan ddigwyddiadau trychinebus y gorffennol.

At hyn, roedd digonedd o gyfle i fwynhau diwylliant a lletygarwch ein gefeilldref, gan gynnwys ymweliad i Lille, gorymdaith ac Offeren yn Esquelbecq, ynghyd â chinio Dinesig bendigedig wedi’i gynnal gan ein ffrindiau Ffrengig. 

Maer Llandudno a Maer Wormhout yn cyfnewid anrhegion

Un o’r prif uchafbwyntiau oedd y perfformiadau gwych gan y Dawnswyr Powerplay, a wnaeth ddifyrru’r cynulleidfaoedd gyda’u hegni a’u doniau mewn cyngherddau drwy gydol y penwythnos. 

Roedd yn bleser gan y ddirprwyaeth hefyd fynd i agoriad arddangosfa o luniau o Landudno wedi’u peintio yn y Médiathèque, cyn mwynhau noson o gerddoriaeth a dathlu yn sgwâr y dref.

Yn bwysicaf oll, bu i’r penwythnos glodfori’r cyfeillgarwch parhaol rhwng Llandudno a Wormhout — gan ddwyn ynghyd cymunedau, cryfhau cysylltiadau hirsefydlog a chreu atgofion o’r newydd. 

Diolch i’r galon i bawb yn Wormhout am roi croeso mor arbennig i’r ddirprwyaeth, yn ogystal â’r teuluoedd llety, y perfformwyr, y ddau Bwyllgor Gefeillio Trefi, gyrwyr a phawb wnaeth helpu i sicrhau bod yr ymweliad yn llwyddiant mor gofiadwy. 

Tan y tro nesaf, Wormhout — à bientôt!


Newyddion